0
Skip to Content
ACTS
Home
About
ACTS Divinity
ACTS Ignite
International
Discipleship Resources
Apply
Donate
Student Portal
ACTS
Home
About
ACTS Divinity
ACTS Ignite
International
Discipleship Resources
Apply
Donate
Student Portal
Home
About
ACTS Divinity
ACTS Ignite
International
Discipleship Resources
Apply
Donate
Student Portal
  • Yr unig wir Dduw — y Duw Triunol — sy’n holl dragwyddol, yn Dduw perffaith, bendigedig, llawn daioni a chariad, yw’r un goruchaf a hollalluog. Ni ellir ei rannu'n rhannau, ac eto yn y symlrwydd hwn ac undod yr hanfod dwyfol, mae cyflawnder perffeithrwydd dwyfol i'w weld. 

    Y Tad yw Duw, y Mab yw Duw, a'r Ysbryd Glân yw Duw; ac eto nid oes tri Duw, ond un Duw mewn tri pherson. Ac yn y Drindod hon nid oes neb cyn nac ar ôl y llall; nid oes unrhyw un yn fwy nac yn llai nag un arall; ond mae'r tri pherson yn gyd-dragwyddol ac yn gyfartal. Mae’r Duwdod yn gyfartal a heb ei rannu, yn fawreddog a phwerus, ac felly mae'r Drindod mewn Undod ac Undod yn y Drindod i'w addoli.

    Nid yw'r Tad yn cael ei wneud nac yn cael ei greu nac yn anedig o unrhyw un. Nid yw'r Mab wedi'i wneud nac wedi'i greu, ond yn anedig am byth o'r Tad yn unig. Nid yw'r Ysbryd Glân yn cael ei wneud nac yn cael ei greu nac yn anedig o unrhyw un, ond mae'n deillio o'r Tad a'r Mab.

    Mae'r Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân yn un hanfod, yn anwahanadwy o ran yr hyn ydyn nhw a’r hyn maen nhw'n ei wneud, gan rannu un ewyllys dwyfol. Mae'r Tri Pherson yn un o ran natur, hanfod, a phriodoleddau: anfeidrol, tragwyddol, digyfnewid, hollbresennol, hollwybodol, hollalluog, hollddoeth, cyfiawn, sanctaidd, da, a thrugarog.

    Gan wybod diwedd a dechrau pob peth, yn Ei ddoethineb a'i gariad ddiddiwedd, mae'r Duw Triunol wedi bwriadu o’r dechrau i alw pobl o bob llwyth ac iaith i gymundeb ag Ef, gan eu huno â'r Mab yn llawnder yr Ysbryd, fel Ei drysor gwerthfawr, i foli gogoniant Ei ras. Felly, yng nghyngor tragwyddol y Duw Triunol, rhagarfaethwyd y Mab cyn sefydlu'r byd i fod ein Gwaredwr trwy dywallt Ei waed gwerthfawr, er mwyn i ni dderbyn cyflawnder bywyd ynddo Ef a gogoneddu ein Duw Triunol fel y Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, yr unig un doeth, am byth ac am byth. Amen.

  • Yn Ei gariad hollalluog, crëwyd y cyfan o ddim gan y Duw Triunol, a'u galw'n dda. Mae'r holl greadigaeth yn dibynnu ar y Duw Triunol ar bob eiliad sydd yn ei ddaioni yn cadw, yn cynnal, ac yn llywodraethu pob peth. Mae'n teyrnasu'n uchel dros bawb, ac mae daioni popeth sy'n dda yn dibynnu ar y Duw Da.

    Felly, rydym yn ymgrymu mewn rhyfeddod gerbron y Duw Hollalluog, yr unig un sy’n dda, gan lawenhau yn y daioni y mae'n ein galw i'w rannu, a daioni Ei greadigaeth y mae'n ein galw i stiwardio. Eto, er ein bod yn ymgrymu mewn llawn parchedig ofn, nid ydym yn cael ein gwasgu o dan Ei draed. Mae’r unig Dduw da wedi creu'r ddynoliaeth gyfan, gwryw a benyw, allan o'i gariad mawr ac ar Ei ddelw Ei hun.

    Fel disgynyddion Adda, mae ond un ddynoliaeth ac rydym yn gyfartal fel y rhai a grëwyd ar ddelw ac ar lun Y Duw Triunol. O ganlyniad, mae gennym gyfrifoldeb sanctaidd i gadarnhau gwerth pob bywyd dynol, o genhedliad hyd at farwolaeth naturiol.

    Wedi ein creu’n wryw ac yn fenyw, mae dynoliaeth wedi cael ei bendithio gan yr Arglwydd Dduw yn Ei ddarpariaeth o briodas fel cyflwr sanctaidd o undeb gydol oes rhwng un dyn ac un fenyw mewn ffyddlondeb unigryw, yn agored i fendith Duw i fod yn ffrwythlon ac i luosi. Mae priodas yn ystâd anrhydeddus ac yn ddirgelwch sanctaidd, sy'n gosod delwedd o gariad Crist at Ei Eglwys, a dylid ei hanrhydeddu gan bawb. Ond nid yw pawb yn cael eu galw i briodi, ac mae'r Arglwydd hefyd wedi datgan yn Ei Air fod dibriodrwydd yn ystâd anrhydeddus, yn darlunio bywyd yr atgyfodiad sydd i ddod, ac fe ddylai gael ei hanrhydeddu gan bawb.

     Ac eto, er gwaethaf daioni holl greadigaeth Duw, trwy bechod yr un dyn, Adda (ein tad naturiol a phennaeth y cyfamod) syrthiodd y ddynoliaeth gyfan i bechod. Yn union fel yr ydym yn rhannu'n gyfartal yn nelw Duw, trwy bechod Adda rydym wedi dod i rannu'n gyfartal mewn pechod ac euogrwydd. Nid oes neb wedi syrthio'n fwy ac nid oes neb wedi syrthio'n llai, oherwydd syrthiasom fel un yn Adda.

    Nawr, trwy'r cwymp, mae holl natur ddynol (ac eithrio natur ddynol yr Arglwydd Crist a ddaeth i'n gwaredu rhag pechod) wedi'i lygru gan bechod ym mhob rhan o'n bodolaeth. Mae'r llygredd llwyr hwn yn golygu bod pechod wedi'i wreiddio'n ddwfn ynom. Mae holl gyneddfau’r enaid wedi'u llygru gan bechod, mae ei holl bwerau wedi'u hystumio, ei gymhellion wedi'u llygru. Mae'r ddealltwriaeth wedi'i thywyllu gan anwybodaeth, yr ewyllys wedi'i wyrdroi gan wrthryfel, y serchiadau wedi'u hystumio gan hunan-fodlonrwydd, ac mae bodau dynol pechadurus yn gwbl analluog trwy unrhyw bŵer eu hunain i adennill ffafr Duw trwy unrhyw ddaioni cynhenid.

    Yr unig ffordd i gael ein rhyddhau o'r pechod a'r euogrwydd hwn yw troi oddi wrth ein hunain a'n pechod, a throi at Grist mewn edifeirwch trwy rodd rasol Duw o ailenedigaeth. Adfywiad yw'r newid ysbrydol a wneir yn yr enaid gan yr Ysbryd Glân, trwy Air yr Efengyl, lle cawn ein codi o farwolaeth ysbrydol mewn cyflwr o lygredd i fywyd newydd yng Nghrist a chael ein gwneud yn gyfranogwyr o'r natur ddwyfol.

    Nid yw'r angen am edifeirwch yn dod i ben drwy dröedigaeth, ond yn hytrach, dylai bywyd cyfan credinwyr fod yn fywyd o edifeirwch. Mae dyfnderoedd ein pechod yn golygu y bydd yr edifeirwch hwn yn cwmpasu pob agwedd ar ein bywydau.

    Felly, wrth i ni ddod yn fwy tebyg i Grist trwy gydol y bywyd Cristnogol, ni ddylem byth ofni na ffoi rhag Ei alwad i edifeirwch. Rhaid inni beidio ag anwybyddu gwaith yr Ysbryd Glân o’n hargyhoeddi o bechod, ond gweddïo y byddai ein llygaid yn cael eu hagor i hyd a lled ein pechod a throi oddi wrtho yn ôl at ein Gwaredwr.

    Nid yn unig trwy ras Duw y mae'r edifeirwch hwn yn bosibl i'r rhai sydd wedi cael eu cyfodi i fywyd newydd yng Nghrist, ond mae'n angenrheidiol. Ar y diwrnod olaf, bydd y rhai sydd heb edifarhau yn wynebu cosb dragwyddol y Barnwr Cyfiawn. Felly, nid yw gwrthod edifarhau yn arwydd o wir ffydd yng Nghrist, ond yn rhybudd o’r farn sydd i ddod.

  • Mewn gras a chariad ddiddiwedd, anfonodd y Drindod yr Uniganedig Fab i'r byd er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth. Mae ein Harglwydd Iesu Grist, y Gair Tragwyddol a Mab y Tad, wedi dod yn ddyn, trwy Ei ymgnawdoliad yng nghroth y Forwyn Fair, fel Ei fod yn un â'r Tad, yn rhannu yn Ei natur fel gwir Dduw, ac yn un â ni, yn rhannu yn ein natur fel gwir ddyn. Yn y Mab, gwelir gogoniant y Duw anweledig, yn llawn gras a gwirionedd. Nid yw wedi rhoi o'r neilltu yr hyn yr oedd, ond er ein mwyn ni hefyd, mae wedi cymryd arno Ei hun y natur ddynol, ac yn gwneud popeth y mae'n Ei wneud fel y Duw-Ddyn.

    Trwy Ei fywyd dibechod, ufuddhaodd yr Arglwydd Iesu yn llwyr i gyfraith Duw a chyflawnodd bob cyfiawnder i ni. A thrwy offrymu Ei Hun i'r Tad trwy'r Ysbryd Tragwyddol ar groes Calfaria yn Ei farwolaeth gymodlon, tywalltodd Ei waed a bu farw dros ein pechodau, gan gymryd arno Ef Ei hun y gosb lawn yr oeddem ni’n ei haeddu. Mae Crist wedi ein gwaredu o felltith y gyfraith trwy gymryd y gosb arno Ef Ei hun trwy Ei aberth cymodol.               

    Trwy Ei atgyfodiad gogoneddus, mae'r Crist Buddugol yn rhoi bywyd newydd i'w bobl. Gan godi'n fuddugoliaethus o'r bedd ar y trydydd dydd, ar ôl trechu pŵer pechod, marwolaeth, uffern, a'r diafol, atgyfodiad Crist yw’r patrwm a’r addewid ar ein cyfer ni; oherwydd, ar y diwrnod olaf, bydd yn ein codi o'n beddau yn y cyrff hyn, wedi'u trawsnewid a'u gogoneddu ganddo Ef, ‘yn eu gwneud yr un fath â'i gorff rhyfeddol Ei hun' (Philipiaid 3:21) nid yn ôl unrhyw ddelfryd ddynol. Felly, nid yn unig y rhoddwyd hunaniaeth gorfforol pob crediniwr gan yr Arglwydd yn ein creadigaeth, ond mae hefyd wedi'i chadarnhau yn yr atgyfodiad.

    Nawr, wedi esgyn i ddeheulaw'r Tad, mae'r Arglwydd Iesu yn byw am byth i eiriol drosom ni fel ein Harchoffeiriad gwych. Trwy Ei Air a thrwy Ei Ysbryd, mae'n ein dysgu i weddïo, ac fel ein Heiriolwr a'n Cyfryngwr nefol, mae'n puro ein gweddïau ac yn eu cyflwyno i'r Tad yn Ei enw Ei Hun. Ac un diwrnod (er nad oes neb ond Duw yn gwybod y diwrnod na'r awr) bydd yn dychwelyd mewn gogoniant yn yr un modd ag yr esgynnodd, i deyrnasu'n gorfforol ar y ddaear hon, i atgyfodi'r meirw ar gyfer y farn derfynol, ac i drigo am byth gyda'i bobl mewn gogoniant.

    Pan fydd yn dychwelyd fel Brenin, bydd Crist ein Duw yn dod â phob gormes ac anghyfiawnder i ben ar y ddaear hon. Ond nawr, wrth i ni aros, mae'n teyrnasu fel Brenin yr holl genhedloedd, a hefyd yn gweithredu’n achubol yn ein bywydau, lle mae'n dymuno cael gwared ar bob gormes ac anghyfiawnder. Os ydym wir yn aros iddo Ef i ddychwelyd i deyrnasu, ac yn gweddïo'n ddiwyd 'Deled Dy Deyrnas', ni allwn wrthod Ei goncwest frenhinol o'n calonnau wrth iddo oresgyn Ei holl elynion a'n gelynion ni (gan gynnwys ein pechodau). Yn hytrach, wrth inni geisio’r Deyrnas a dyfodiad yr Un a fydd yn sychu pob deigryn o’n llygaid ac yn dod â thristwch a phoen i ben, dylem fyw yng ngoleuni Ei Deyrnas sydd ar ddod, gan geisio (trwy ein hundeb ag Ef) sychu dagrau a chysuro’r rhai sy’n wylo, dioddef gyda’r rhai sy’n dioddef a rhwymo clwyfau’r rhai sy’n cael eu gorthrymu ac sydd mewn poen. Gorchymyn ein Brenin yw hyn: ‘Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly fe gyflawnwch Gyfraith Crist’ (Galatiaid 6:2), ac, fel ein Hiachawdwr, rhoi ein hunain dros ein gilydd mewn cariad aberthol.

  • Daw iachawdwriaeth y byd — pobl o bob llwyth a phob iaith —drwy waith cwbl a gorffenedig Crist yn unig. Mae yna un iachawdwriaeth yr ydym i gyd wedi ein galw i'w rhannu, trwy undeb â'r un Gwaredwr a roddodd Ei Hun drosom ni i gyd. Gwaith yr Ysbryd Glân yw’r undeb hwn â Christ, trwy ffydd sy'n dod wrth glywed Gair yr Efengyl. Wedi ein huno â Christ, ceir ynddo Ef y ddwy ras: cyfiawnhad a sancteiddiad.

    Wrth gyfiawnhau'n rasol y rhai sy'n gorffwys ac yn dibynnu ar Grist Iesu mewn ffydd, mae'r Arglwydd Dduw yn maddau ein pechodau ni ac yn ein derbyn yn gyfiawn ger Ei fron drwy gyfiawnder Crist yn unig (yn Ei fywyd dibechod a'i farwolaeth gymodlon) a briodolir i ni. Trwy'r rhodd raslon hon, mae pawb sy'n credu yn cael eu gorchuddio â Christ er cyfiawnder, trwy ras yn unig, trwy ffydd yn unig.

    Er ein bod yn cael ein derbyn yn y Mab Annwyl, ac mae hyn yn gyfartal i bob crediniwr, nid yw hyn yn ein trawsnewid yn berffaith. Wedi ein gorchuddio â chyfiawnder nad yw'n perthyn i ni ein hunain, rydym, ar yr un pryd, yn gyfiawn ac yn bechadurus. Nid yw pechod yn ein bywydau yn diflannu ar unwaith, ond mae’n rhaid ei gydnabod, edifarhau amdano, a'i gyffesu. Ni ddylid gwadu na chuddio realiti pechod yn ein bywydau, oherwydd ‘os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw'r gwirionedd ynom … os dywedwn nad ydym wedi pechu, yr ydym yn ei wneud ef yn gelwyddog, ac nid yw Ei air Ef ynom ni’ (1 Ioan 1:8, 10); ond ‘os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda'r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn; ac Ef sy'n aberth cymod dros ein pechodau’ (1 Ioan 2:1-2).

    Mae'r rhai sydd wedi eu geni eto, wedi eu huno â Christ, wedi eu gorchuddio ag Ef er cyfiawnder, ac wedi eu mabwysiadu ynddo Ef yn feibion ​​a merched i’r Duw byw, hefyd yn derbyn yng Nghrist y gwaith parhaus o sancteiddiad gan ein Duw Sanctaidd i'n ffurfio ar ddelw Crist mewn sancteiddrwydd. Mae sancteiddio yn drawsnewidiad o bwy ydym ni fel creaduriaid newydd yng Nghrist, ond nid yw'n dileu pwy ydym ni wedi bod erioed fel creaduriaid. Trwy waith grasol Duw o sancteiddio, rydym yn cael ein ffurfio fwyfwy ar ddelw’r Duw Triunol y cawsom ein creu ar Ei ddelw, ac rydym yn cael ein hadfer i'w ddelw.

    Wrth i'r Ysbryd sy'n trigo ynom ein sancteiddio trwy'r Gair, rydym yn cael ein galw bob dydd i farwolaethu pechod trwy ras Duw—gan droi oddi wrth ein gweithredoedd a'n dyheadau pechadurus—ac i fyw mewn cyfiawnder, gan dyfu mewn gras a sancteiddrwydd mewn parchedig ofn Duw. Gwnawn hyn wrth ddibynnu ar Grist sy’n eiriol drosom ni, ac yn nerth Ysbryd grasol Duw, gyda hyder ‘y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu’ (Philipiaid 1:6).

  • O'r nefoedd, mae'r Arglwydd Iesu yn tywallt yr Ysbryd Glân ar Ei bobl. Mae'r Ysbryd Glân yn byw ym mhob crediniwr, oherwydd yr Ysbryd Glân sy'n ein hargyhoeddi o'n pechod, yn ein tynnu at Grist am iachawdwriaeth, yn ein hadfywio ac yn ein huno â Christ trwy ffydd. Eto, pan fydd Crist yn ein bedyddio yn yr Ysbryd Glân, rydym yn derbyn yr Ysbryd mewn ffordd arall: tywalltir cariad Duw yn ein calonnau, cawn sicrwydd ein bod yn blant Iddo, a chawn ein grymuso i’w wasanaethu a chyhoeddi i eraill y newyddion da am iachawdwriaeth yn Iesu. Mae ein Gwaredwr yn ein dysgu i weddïo i dderbyn yr Ysbryd yn y ffordd hon, fel rhodd dda.

    Addawir y bydd pob crediniwr yn cael ei fedyddio â’r Ysbryd Glân, oherwydd ‘i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato' (Actau 2:39). Mae'r rhagflas hwn o'r oes sydd i ddod yn brofiad adnabyddadwy, yn wahanol i’r aileni, ac fe’i dilynir gan arwyddion, fel y bu ar y dechrau.

  • Mae'r Eglwys, sef Corff Crist, yn Un, yn Sanctaidd, yn Gatholig ac yn Apostolaidd. Mae Un Corff, wedi'i uno â'i Un Pen, sef yr Arglwydd Iesu Grist, ac oddi wrtho Ef y daw bywyd a bendith. Daeth Crist i'r byd unwaith, offrymodd Ei Hun ar y groes unwaith ac am byth, atgyfododd ac esgynnodd i ddeheulaw'r Tad unwaith, er mwyn yr Un Corff y mae wedi ei uno ag Ef. Ni all fod unrhyw raniadau yn yr Un Corff oherwydd rydym i gyd yn un yn Iesu Grist, ac Ef yw'r unig Bennaeth ar yr Eglwys y gallwn fod yn un ag ef. Gwelir yr Eglwys ar y ddaear lle mae’r Gair yn cael ei gyhoeddi’n wir ac yn ffyddlon, mae’r cymun yn cael ei ddathlu, ac mae’r praidd yn cael ei ofalu amdano, ei amddiffyn a’i fwydo gan fugeiliaid ffyddlon trwy ddysgeidiaeth a disgyblaeth.

    Gelwir yr Un Corff hwn yn Sanctaidd oherwydd ei fod yn perthyn i Grist ac yn cael ei lunio i fod yn fwy tebyg iddo, ac felly rhaid ei lanhau o bechodau a’i feithrin mewn cariad, yn rhan o'r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw trwy Ei Ysbryd.’ (Effesiaid 2:22). Mae'r Un Eglwys Sanctaidd hon yn Gatholig — corff sy'n cynnwys pob cenedl, iaith, diwylliant, ethnigrwydd, oedran a dosbarth, ‘Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth’ (Colosiaid 3:11). Rydym wedi ein prynu â'r un gwaed ac wedi ein huno gan yr un Ysbryd i'r un Pen, yn yr un Corff. Dangosir undod yr un corff trwy amrywiaeth ei gatholigrwydd. Mae'r Un Eglwys Gatholig, Sanctaidd hon yn Apostolaidd: ac fe’i gelwir i ledaenu’r un efengyl a ymddiriedwyd i apostolion cyntaf Crist i bob diwylliant ac iaith, gan gyhoeddi'r Arglwydd Iesu i bobl o bob llwyth ac iaith a thrwy hynny eu gwahodd i ddod ato Ef am fywyd ac iachawdwriaeth, ac i gael eu hychwanegu at Ei Eglwys.

    Wrth dywallt Ei Ysbryd ar Ei Eglwys, mae Crist yn cael ei ogoneddu a'r eglwys yn cael ei chryfhau, ei hannog, ac mae’n derbyn cysur ganddo Ef trwy roddion megis doethineb, gwybodaeth, ffydd, iachâd, gwyrthiau, proffwydoliaeth, dirnadaeth ysbrydion, llefaru â thafodau, a dehongli tafodau. Mae'r Arglwydd yn annog Ei bobl i ddymuno'n daer am y rhoddion hyn y mae Duw yn eu dosbarthu fel y myn Ef, er budd Corff Crist. Rhoddion gras Duw yw'r rhain, nid trwy haeddiant dynol, ac felly dylent bob amser ein harwain at ostyngeiddrwydd, diolchgarwch a dibyniaeth bellach ar ein Duw graslon, a dim ond mewn ffydd a chariad y dylid eu harfer.

  • Mae'r Arglwydd Iesu wedi rhoi'r sacramentau i'w eglwys: dau arwydd corfforol y mae'n ei bendithio trwy Ei eiriau, ac sy’n gyfrwng iddo gyfarfod â ni yn Ei ras. Yn nŵr y Bedydd, rydym yn cael ein huno â Christ yn ei ddau fedydd - yn yr Iorddonen ac ar y Groes. Wrth i gredinwyr gael eu trochi yn y dŵr yn enw'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân, mae Duw yn cyhoeddi Ei efengyl o faddeuant pechodau trwy ein hundod â Christ yn Ei farwolaeth, Ei gladdedigaeth a’i atgyfodiad. Mae dyfroedd y bedydd bellach yn ein cysylltu'n weladwy fel un teulu newydd yng Nghrist, ac yn ein gwahodd yn rheolaidd i fwyta ac yfed gyda phobl yr Arglwydd ar Ddydd yr Arglwydd wrth Fwrdd yr Arglwydd.

    Wrth dorri’r Bara, gyda rhyfeddod, parch, llawenydd, a diolchgarwch, rydym yn bwyta'r bara y mae Crist yn ei alw'n Ei gorff ac yn yfed y cwpan y mae'n ei alw'n Ei waed. Rydym yn cael ein maethu gan ein Gwaredwr ac yn cyhoeddi Ei farwolaeth nes iddo ddod. Mae'r Ysgrythurau'n ein dysgu i archwilio ein hunain wrth i ni ddod at y Bwrdd er cof am ein Gwaredwr, ac i fwyta gyda ffydd, gan ddirnad corff yr Arglwydd. Wrth rannu’r un bara a’r un cwpan yn Swper yr Arglwydd, rydym yn rhannu yng Nghrist ei hun, ac mae hyn yn ein tynnu’n nes at ein gilydd fel un Eglwys unedig. Yn y cymundeb hwn, mae'r Arglwydd trwy Ei Ysbryd yn cymryd bara a’r gwin ac yn eu bendithio trwy Ei eiriau, fel Ei fod Ef, trwyddynt, yn cwrdd â ni yn Ei gorff a'i waed er ein sancteiddiad a'n cynhaliaeth ysbrydol. Wedi ein hadnewyddu a'n hadfywio wrth y Bwrdd lle cyhoeddir Ei farwolaeth, mae'n ein hanfon allan i gyhoeddi Ei farwolaeth i eraill, fel y gallant hwythau gael eu huno ag Ef trwy ffydd a dod i'w wledd rasol.

  • Llais yr Ysgrythur yw llais Duw. Mae’r Beibl cyfan yn Air ysbrydoledig Duw, yn anffaeledig yn ei ddatganiadau, yn awdurdod terfynol, yn ddigonol yn ei ddarpariaeth, ac yn gynhwysfawr yn ei gyflawnder. Ysgrifennwyd y chwe deg a chwech o lyfrau’r Hen Destament a’r Testament Newydd dan ysbrydoliaeth yr Ysbryd Glân, trwy awduron dynol yn yr ieithoedd gwreiddiol Groeg, Hebraeg ac Aramaeg. Felly, geiriau’r Ysgrythur, a phob gair ohoni, yw Gair Duw ei Hun. Fel Gair Duw, mae gan yr Ysgrythurau awdurdod Duw. Fel Gair y Duw na all wneud camgymeriad, mae’r Ysgrythurau yn ddiffaeledd ym mhob peth y mae’n ei gadarnhau. Fel Gair ysgrifenedig Duw, mae’r ysgrythurau yn cyhoeddi’r Arglwydd Iesu, Gair Byw Duw.

    Mae'r Ysgrythurau'n cynnwys popeth sy'n angenrheidiol ar gyfer iachawdwriaeth a duwioldeb, ac maent yn ddigonol i'n harwain ym mhob mater o ffydd, cred, addoliad ac ymarfer. Ni all arfer na gorchymyn, na gweledigaeth na gwyrth, nac unrhyw ddatguddiad na thraddodiad arall byth addasu nac ychwanegu at yr Ysgrythur. Dylid credu'r Beibl fel cyfarwyddyd Duw ym mhopeth y mae'n ei gadarnhau, ei ufuddhau fel gorchymyn Duw ym mhopeth y mae'n ei ofyn, a'i groesawu fel addewid Duw ym mhopeth y mae'n ei addo. Lle y mae'r Ysgrythur Sanctaidd wedi llefaru, y mae'r mater wedi'i benderfynu, oherwydd lle y mae'r Ysgrythur sanctaidd wedi llefaru, y mae'r Duw byw wedi llefaru.

    Yr un Duw a ysbrydolodd yr Ysgrythurau, ac sy'n datgelu Ei Hun yn yr Ysgrythurau, sy'n agor ein llygaid fel y gallwn weld rhyfeddodau yn Ei Air. Trwy oleuedigaeth yr Ysbryd Glân, ac wrth ddibynnu arno Ef, mae'n ein galluogi i ddeall y Gair yn iawn, ac mae'n defnyddio'r Ysgrythur i esbonio'r Ysgrythur.

    Mae Gair yr Arglwydd yn fyw ac yn bwerus, a thrwy Ei Air, mae Duw yn rhoi bywyd newydd, ffydd, sancteiddiad a thwf mewn gras. Trwy'r Ysgrythurau, mae'n ein paratoi yn llwyr ar gyfer pob gwaith da. Ei Air yw ein harf yn y frwydr ysbrydol ac mae'n dwyn ffrwyth ym mywydau'r rhai sy'n ymhyfrydu ynddo ac yn myfyrio arno. Mae'r Arglwydd yn gweithio'n bwerus trwy Ei Air ac nid yw'n dychwelyd ato yn ofer. Wrth i ni gyhoeddi neges yr Ysgrythurau yn ffyddlon, bydd yr Arglwydd yn defnyddio Ei Air i wneud llawer yn ‘ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu’ (2 Timotheus 3:15).

  • Fel Pennaeth yr Eglwys, mae'r Arglwydd Iesu yn llywodraethu, yn arwain, yn uno, yn aeddfedu, ac yn tyfu Ei Gorff fel ei wir Apostol, ei wir Broffwyd, ei wir Efengylwr, ei wir Fugail a Henuriad, a'i wir Athro, ac yn Ei ddarpariaeth rasol, mae'n rhoi rhoddion megis apostolion, proffwydi, efengylwyr, bugeiliaid (gan gynnwys henaduriaid), ac athrawon i'w Gorff. Nid yw'r gweinidogion yn cael eu galw ar eu pen eu hunain fel unigolion; yn hytrach, maent yn gwasanaethu mewn undeb â Christ, ac yn dibynnu arno, ac mewn cydweinidogaeth â’i gilydd. Ystyr gwir gydweinidogaeth yng ngweinidogaeth Eglwys Crist yw bod ei gweinidogion yn barod i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chlywed gair Crist mewn gostyngeiddrwydd a chariad. Mae Crist yn arfer Ei bŵer i rwymo a rhyddhau trwy Ei weinidogion wrth gyhoeddi'r Efengyl ac yn nisgyblaeth yr Eglwys.

    Gelwir diaconiaid, wedi eu llenwi â’r Ysbryd Glân, i wasanaethu aelodau Corff Crist yn y gymanfa leol, ochr yn ochr â’r presbyteri. Gweinidogaeth ysbrydol yw hon, sy’n gofyn am gyflawnder, cymorth a doethineb yr Ysbryd, i'w chyflawni mewn gweddi.

    Y mae’r Arglwydd yn neilltuo’r rhai a ddewisodd i’r weinidogaeth trwy ordeinio, a hynny thrwy weddi a gosod dwylo arnynt i roi gras.

  • Iesu Grist Ei Hun yw iachawdwriaeth rasol Duw, ac rydym yn rhannu yn yr iachawdwriaeth honno drwy undeb ag Ef mewn ffydd. Ni ddylem byth gwestiynu darpariaeth gyflawn Duw yng Nghrist i achub, cadw, a galluogi pob crediniwr i gyrraedd cyflawnder gogoniant. Eto, y mae'r Ysgrythurau'n ein rhybuddio am yr angen i ddyfalbarhau mewn ffydd yn Iesu hyd y diwedd. Pan mae Paul yn rhybuddio am gwympo oddi wrth ras Duw, y mae’n rhybuddio’r rhai sydd wedi ychwanegu rhywbeth arall at eu dibyniaeth lawn ar Grist fel Gwaredwr (Galatiaid 5:4). Byddai troi oddi wrth Grist a'i adael Ef yn gyfystyr â throi oddi wrth ras Duw. Mae'r rhai sy'n aros yng Nghrist yn ddiogel ynddo Ef.

  • Mae cariad Duw tuag atom yn ein harwain i'w garu Ef drwy gadw Ei orchmynion (Ioan 14:15). Nid yw Cyfraith Duw wedi'i diddymu, ond yn hytrach mae Crist yn ein galw i ufuddhau i'w orchmynion fel mynegiant llawen o gariad at ein Gwaredwr. Ymhlith y mynegiadau hyn o gariad y mae ffyddlondeb wrth i ni ddod â'n degymau a'n hoffrymau i'r Arglwydd i gefnogi anghenion Ei eglwys fel gweithred o addoliad, nid o orfodaeth na rhwymedigaeth, ond yn llawen. Eto, ni ddylem dalu ein degwm yn unig, gan esgeuluso 'pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd’ (Mathew 23:23). Ac felly, yn union fel y mae'r Arglwydd bob amser wedi galw Ei bobl i garu eu cymydog, mae Crist yn rhoi'r gorchymyn inni i garu ein gilydd (Ioan 13:34), gan ein galw i roi ein bywydau dros ein gilydd mewn gwasanaeth hunanaberthol. Nid yw gweithredoedd da o ufudd-dod a chariad yn cyfiawnhau, ‘dim cadw yn ddeddfol holl fanion y Gyfraith Iddewig sy'n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn' (Galatiaid 2:16). Eto, o ran y rhai sy'n cael eu cyfiawnhau trwy ffydd yn Iesu Grist ac wedi eu huno ag Ef, mae gweithredoedd da yn llifo allan o ffydd fel ffrwyth. Heb Iesu Grist ni allwn wneud dim, ond bydd y rhai sy'n aros yng Nghrist trwy ffydd yn dwyn llawer o ffrwyth trwy Ei Ysbryd er gogoniant ein Duw Triunol.

Privacy Policy
Cookie Policy
Contact Us

Instagram

Facebook
Twitter

ACUK, Suite 110 Crystal House
New Bedford Road
Luton
LU1 1HS
United Kingdom


Theological training for Spirit-empowered ministry & mission.

Part of the Apostolic Church UK. Registered as a charity in England and Wales 284789 and Scotland SC037835.